Enghraifft o: | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Gwlad | Lloegr |
Enw brodorol | Bull Terrier |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeargi sy'n tarddu o Loegr yw'r Daeargi Tarw.[1] Datblygodd yn y 19eg ganrif o'r Ci Tarw, y Daeargi Gwyn Seisnig, a'r Ci Dalmataidd, ac o bosib y Cyfergi Sbaenaidd, y Ci Cadno a'r Milgi. Cafodd ei fridio fel ci ymladd.[2]
Mae ganddo daldra o 53 i 56 cm (21 i 22 modfedd) ac yn pwyso 23 i 27 kg (50 i 60 o bwysau). Ceir hefyd y Daeargi Tarw Bychan, sy'n 25 i 35 cm (10 i 14 modfedd) ac yn pwyso 11 i 15 kg (24 i 33 o bwysau). Mae'n gyhyrog iawn ac mae ganddo gynffon bigfain, clustiau sy'n sefyll i fyny, llygaid bychain, trionglog sy'n ddwfn yn y pen, a phen sy'n debyg i siâp wy. Mae ganddo gôt fer o flew a all fod yn wyn (weithiau gyda marciau tywyll ar y pen) neu'n lliw arall (gan gynnwys marciau rhesog). Mae'n un o'r bridiau cryfaf o gŵn, ond yn gi ffyddlon a chwareus.[2]